Braxzz Porter

English | Cymraeg

Ein barn ar Braxzz Porter

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 89 (27 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Wyddon ni ddim llawer am Braxzz. Bragwyr o’r Iseldiroedd ydyn nhw, ac mae pencadlys y cwmni ar gamlas hyfryd Keizersgracht yng nghanol Amsterdam. Gwyddon ni hefyd iddyn nhw ymddangos fel pe bai o nunlle yn Ebrill 2018 gyda thri cwrw newydd, gan gynnwys y cwrw du di-alcohol yma.

Mae llawer o’r cwrw di-alcohol sydd ar werth heddiw yn “gyfaddawd anferth o ran blas,” meddan nhw, ac mae yna “ddiffyg dewis i gwsmeriaid”. Maen nhw yn llygaid eu lle. Dwedan nhw hefyd fod angen “dyfeisgarwch gwirioneddol” o ran gwella teimlad diodydd yn y geg er mwyn gwneud yn iawn am absenoldeb alcohol. Eto yn llygaid eu lle.

Un o brif wendidau nifer o gyrfau di-alcohol neu brin-eu-halcohol yw eu bod nhw’n blasu’n dda ond teimlo fel dŵr. Cemeg syml yw e yn y bôn: mae C2H6O (alcohol) yn gwneud i H20 deimlo’n wahanol. Felly, mae angen rhywbeth arall i gymryd ei le, neu’r cyfan sydd gyda chi yw gwydraid o ddŵr sy’n blasu fel brag.

Mae’r cwrw yma yn bell o fod yn ddyfrllyd. Yn wir, mae bron yn berffaith. Mae’r bragwyr mor hyderus amdano nes iddyn nhw fynd ag e i Ŵyl Gwrw Fawr Prydain, sy’n gynulleidfa anodd ar y naw ei phlesio! Mae nodau coffi a siocled moethus, ac o dan hwnnw i gyd mae yna chwerwder porter da. Os ydych chi’n un o’r llu o yfwyr sy’n cyfrannu at boblogrwydd mawr stowt a phorter ar hyn o bryd, mae wir angen i chi drio hwn! Gallwch chi ei brynu fe ar-lein gan Dry Drinker.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​