Drop Bear Bonfire Stout

English | Cymraeg

Ein barn ar Drop Bear Bonfire Stout.

Sgôr:

4/5

Cryfder: llai na 0.5%
Calorïau ymhob potelaid 69: (21 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Does dim pall ar egni genethod Drop Bear: maen nhw i’w gweld ar ben eu digon yn dyfeisio cyrfau dirwestol newydd. Dyma ddwy o fragwyr mwyaf bywiog a mwyaf creadigol y wlad. Ac mae’r stowt yma yn un o’u goreuon.

Yn ddigon priodol, mae wedi’i becynnu’n ddu, gyda’r coala ffyrnig chwedlonol yn ysgyrnygu ar y label. Fel mae ei enw yn awgrymu, mae iddo flas grawn rhost cryf. I raddau, diod go debyg yw hi i Guinness Gwreiddiol, gyda blas miniog, chwerw, yn gyforiog o siocled tywyll. Os nad yw cwrw du, cryf ei flas, at eich dant, mae’n weddol sicr bydd hwn yn rhy chwerw i chi. Ar y llaw arall, os stowt yw eich dewis ddiod, bydd hwn yn ddewis di-alcohol delfrydol i chi.

Mae’r bragwyr yn cymell ei weini yn oer tu hwnt. Yn ein barn ni, mae e’n well o lawer ar dymheredd ystafell. Dewiswch chi.

Gallwch chi ei brynu gan lu o siopau ar-lein neu yn y byd go-iawn.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​