Nirvana Dark & Rich Stout

English | Cymraeg

Ein barn ar Nirvana Rich & Dark Stout - cwrw cwbl ddi-alcohol gan o fragdai mwyaf diddorol Prydain

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 20

Un o fragdai mwyaf diddorol y wlad yw Nirvana. A dyma un o’u cyrfau mwyaf diddorol. Ac mae'n gwbl ddi-alcohol.

Wedi’i dywallt, mae ganddo liw siocled tywyll hyfryd. Mae tamaid bach o licris yn y blas, ond y peth sy’n dod drwodd yn anad dim i ni yw Triog Du Tate & Lyle (clasur o’r gorffennol a blas a atgyfododd atgof Proustaidd am Oor Wullie i un o’n profwyr cwrw). Os ydych chi am brofi un o’r cyrfau tywyll mwyaf dyfeisgar a gwreiddiol sydd ar gael, mynnwch botelaid o hwn.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​