Thornbridge Little by Little

English | Cymraeg

Ein barn ar Thornbridge Little by Little.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 91 (28 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Yn ôl pob golwg, mae llai o fynd ar gwrw du nag ar un adeg, a’r silffoedd yn gyforiog bellach o gyrfau gwelw trymlwythog â hopys. Felly, cael ein siomi ar yr ochr orau roeddem ni pan welsom ni’r Stowt Llaethog newydd yma gan Thornbridge: Little by Little.

Mwy fyth oedd ein boddhad wrth ei flasu. Tywyll a moethus, gydag is-flasau coffi hyfryd, dyma gwrw gallech chi ei fwynhau ar hirnos gaeaf duoer neu brynhawngwaith teg o haf hirfelyn tesog. Mae ychydig yn fwy byrlymus na’r disgwyl, o bosib, ond at ei gilydd yn gwrw gwych. ‘Fesul tipyn’ yw’r enw arno, ond digon hawdd yw yfed sawl potelaid ohono heb ddiflasu. Ond gan nad oes perygl pen tost bore trannoeth, cewch chi yfed eich llond heb boeni dim.

Prynon ni Little by Little yn syth o’r bragdy. Mae ar gael hefyd trwy Dry Drinker.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​