Big Drop Brown Ale

English | Cymraeg

Ein barn ar Big Drop Brown Ale

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 99 (30 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Suffolk, yn ôl pob golwg, yw’r lle i fynd am gwrw di-alcohol y dyddiau hyn, gan fod Big Drop, St Peter’s ac Adnams ill tri bellach yn creu diodydd yno sy’n agos i sero o ran ABV.

Nid cwrw gwinau, er hynny, yw’r ddiod gyntaf fasai’n dod i’r meddwl wrth feddwl am wastadeddau llydain dwyrain Lloegr. Cwrw bröydd diwydiannol y gogledd-ddwyrain yw e – bröydd y Newcastle Brown byd-enwog. Cwrw go wahanol i hwnnw yw hwn. Gwahanol a gwell.

Mae’r bragwyr yn telynegu am ei “arogl rhost”, “nodau gwelltog meddal” a “mymryn o ffrwyth a charamel”. Yn ein barn ni, mae hefyd awgrym o goffi neu siocled. Ond sut bynnag byddwch chi’n ei ddisgrifio, mae’n gwrw penigamp. Fel cyrfau tywyll eraill Big Drop, mae ganddo’r swmp a’r dyfnder bydd cwrw yn ei gael fel arfer o alcohol. Pwy a ŵyr sut maen nhw’n ei wneud e, ond mae’n teimlo’n rhyfeddol o feddwol am gwrw 0.5%.

Mae Big Drop Brown Ale ar gael mewn nifer o siopau ac ar-lein.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​