Big Drop Spiced Ale

English | Cymraeg

Ein barn ar Big Drop Spiced Ale

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 99 (30 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Lansiwyd y cwrw tymhorol yma yn 2017 yng Ngŵyl Yfed Ystyriol Club Soda, gan anelu’n glir at y farchnad am gyrfau tywyll, cysurlon i’w llymeitian wrth y tân ar “hirnos gaeaf dduoer”, chwedl y Bardd Cwsg.

Mae’n gyforiog o sbeisys cynhesol – sinamon yn amlycaf – fel llond gwydryn o bwdin Dolig blasus. Ar y llaw arall, am gwrw gaeaf mae’n teimlo braidd yn denau, heb lawer o’r trwch sydd gan y Stowt Siocled Llaethog rhagorol o’r un bragdy. Roedd hwnnw’n llawn haeddu sgôr o 5 allan o 5; mae hwn yn nes at 3. Mae’n gwrw da ond ddim yn wych.

Fel gweddill diodydd Big Drop, mae diwyg y botel yn ardderchog, gyda llun swynol o gaeau dan farrug y bore, wedi i’r “arad rwygo’r gwanwyn pêr o’r pridd”, chwedl R Williams Parry, er ei fod yntau’n hiraethu am gwmwd Eifionydd yn hytrach na thiroedd âr Dwyrain Anglia sy’n destun i’r ddelwedd ym.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​