Guinness Malta

English | Cymraeg

Ein barn ar Guinness Malta

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 188 (57 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Doedden ni ddim yn hollol siŵr ym mha ddosbarth i roi hwn. Nid cwrw mohono yn ystyr arferol y gair; ond efallai mai cwrw tywyll yw’r peth agosaf ato.

Un peth annisgwyl am Guinness – er ei fod yn fyd-enwog fel hoff gwrw’r Gwyddelod – yw ei fod e hefyd yn boblogaidd tu hwnt yn Nigeria. Mae’r bragdy wedi noddi’r tîm pêl-droed cenedlaethol ac maen nhw’n sôn amdanyn nhw eu hunain fel “cwmni Affricanaidd eiconig”.

Mae Guinness traddodiadol Nigeria yn ddiod dra chryf – rhyw 7.5%. I’r rhai ohonon ni sy’n chwilio a, rywbeth llai meddwol, yn 1990 lansiodd Guinness Nigeria Malta Guinness. Fel mae’r enw yn ei awgrymu, roedden nhw hefyd am fanteisio ar yr hoffter mawr am ddiodydd di-alcohol gyda blas brag yn Nigeria ac ymhlith pobl Affricanaidd-Caribïaidd ym Mhrydain.

Yn ôl y cynhyrchwyr, mae’n “llawn bywyd, llawn maeth” a bydd yn gwneud i chi deimlo “ar ben eich digon”. Yn sicr, mae’n llawn calorïau. O ran y blas, os ydych chi’n hoffi brag, byddwch chi wrth eich bodd. Mae rhyw awgrym o stowt Guinness ynddi hi. Ond, at ei gilydd, diod go felys yw hi.

Mae ar gael mewn rhai archfarchnadoedd er nad ymhob man. Cawson ni botelaid o’n siop fwyd Affricanaidd leol.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​