Old Speckled Hen Low Alcohol

English | Cymraeg

Ein barn ar Old Speckled Hen Low Alcohol

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob can: wrthi’n aros gwybodaeth
Sgôr: 3 o 5

Yn ôl y sôn, cafodd Old Speckled Hen ei enwi ar ôl car MG oedd magu golwg smotiog braidd ar ôl sawl blwyddyn wedi’i barcio o dan weithdy peintio ffatri MG ger bragdy Morland yn sir Rydychen.

Tua 5% yw ei gryfder arferol. Mae’r fersiwn newydd yma gryn dipyn yn llaid alcoholaidd, ac mae ganddo lai na hanner y calorïau hefyd. O ran ei liw a’i flas, mae’n debyg iawn i Speckled Hen arferol, gyda lliw copr hyfryd a’r holl flasau caramel a thaffi byddech chi’n eu disgwyl. Ym marn ein panel profi, roedd e fymryn yn rhy felys (felly’r sgôr o 3 allan o 5). Ond at ei gilydd, mae’n gwrw dymunol iawn.

Dewch chi o hyd iddo yn Sainsbury’s, Morrison’s, ac ychydig o lefydd eraill.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​