St Peter’s Without

English | Cymraeg

Ein barn ar St Peter’s Without

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob potelaid: 145 (29 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Hwn oedd cwrw newydd annisgwyl 2016. Efallai na fydd y puryddion yn cydweld, ond gellid dweud mai hwn oedd y “cwrw go-iawn di-alcohol cyntaf”. Yn sicr, gyda’r cyrfau tywyll, trwm mae’n eistedd, nid gyda’r rhai melyn ysgafn. Diod yw hi ar gyfer cwrwgarwyr sy’n hoffi pendroni uwchben peint. Mae’r brif ddelwedd farchnata, o dri hogyn yn mwynhau eu fflagenni o flaen coelcerth o dân mewn tafarn wledig, groesawgar yn gwneud i chi feddwl am bopeth sy’n bleserus am gwrw tywyll da.

Fel FitBeer, cwrw ac iddo hanes diddorol yw St Peter’s Without. Dechreuodd ar ei hynt yn ôl yn 2013, pan gafodd perchennog y bragdy, John Murphy, wybod bod arno fe ganser. Yn unol â chyngor ei feddyg, rhoddodd y gorau i alcohol. Ond beth mae bragwr i fod i’w yfed pan na all yfed ei gwrw ei hunan? Cwrw heb yr alcohol oedd yr ateb a ddaeth i Mr Murphy. Ac am gwrw!

Mae hwn yn rhagori o bell ffordd ar y rhan fwyaf o gyrfau 0% a 0.5% ac mae’n well o dipyn na’r rhan fwyaf o’r brandiau cwrw chwerw mawr ar 3.5% neu 4% gewch chi mewn caniau neu yn y dafarn. Mae gyda fe liw cneuog a blas brag hyfryd. Mae’n tywallt yn dda, gyda thalp o ewyn ar ei ben yn y gwydryn.

Yn ogystal â blasu’n dda, mae’r olwg sydd arno’n ddeniadol dros ben. Daw’r ddiod yn yr un botel hirgron werdd â chyrfau eraill Llanbedr-yn-Suffolk, copi o gostrel a grëwyd mewn tafarn yn Jersey Newydd yn y 18fed ganrif. Nid bob dydd y defnyddiwn ni’r gair “hardd” i ddisgrifio potel gwrw ond mae hon yn ei haeddu. Braf (a rhy brin) yw gweld cwrw di-alcohol wedi’i gyflwyno mor gywrain.

Hwn yw un o’r ychydig iawn (os nad yr unig un) o’r cyrfau di-alcohol sydd ar gael o’r gasgen (yn hytrach na’r botel) ond bydd rhaid i chi fynd i Lundain i Dafarn Jerwsalem er mwyn ei brofi. Ers Mawrth 2017, mae hefyd ar gael yn Tesco, fydd ychydig yn fwy cyfleus i chi, efallai.

O ran yr enw, cyfeiriad yw e at y term Canoloesol am eglwys tu allan i furiau dinas – “without the walls” (rhag ofn bod rhywun yn gofyn).

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​