Sainsbury’s Cabernet Sauvignon

English | Cymraeg

Ein barn ar Sainsbury’s Cabernet Sauvignon

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 48 (19 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Chwarae teg i Sainsbury’s. Maen nhw wedi mynd ati o ddifri’ i wella golwg eu gwinoedd prin-eu-halcohol. Buodd rhai o’u labeli yn eithaf salw ar hyd y blynyddoedd, ond mae’r diwyg newydd yma gydag aderyn trofannol ar gefndir o liwiau chwaethus yn awgrymu mai gwin o safon yw hwn. Mae’r rhan o ymdrech newydd, braf iawn ei gweld, gan nifer o gwmnïau i farchnata gwinoedd llai alcoholaidd fel diodydd byddai oedolion yn dewis eu prynu (yn lle rhai i fodloni arnyn nhw yn niffyg dim gwell).

Mae’r Cabernet Sauvignon newydd yma yn un o bedwar gwin 0.5% o dan y brand Taste the Difference mae’r archfarchnad yn ei roi ar eu cynnyrch gorau. Mae gweddill y teulu’n cynnwys Sauvignon Blanc, Chardonnay pefriog, a Merlot Rosé.

Fel pob tro, mae’n sicr mai’r coch oedd y mwyaf anodd ei wneud yn dda, a dyw hwn ddim cweit yn taro deuddeg. Mae ganddo liw da a rhyw arlliw o fwyar duon, a dyw e ddim yn dioddef o’r adflas sur sy’n difetha ambell win sydd wedi’i ddadalcoholeiddio. Yn anffodus, mae’n brin o swmp. Yn y bôn, mae’n denau.

Yn ein profiad ni, mae’n cyd-fynd yn dda gyda bwyd sbeisiog – o bosib am fod angen rhywbeth ychwanegol i roi tipyn o gic iddo. At ei gilydd, derbyniol heb fod yn syfrdanol.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​