Zera Cabernet Sauvignon

English | Cymraeg

Ein barn ar Zera Cabernet Sauvignon.

Sgôr:

2/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 50 (20 ymhob 100ml)
Sgôr: 2 o 5

Gwin coch o safon yw Greal Sanctaidd y busnes diodydd di-alcohol. Ydy Holland and Barrett wedi dod o hyd iddo? Dim eto, o bosibl. Ond efallai byddwch chi am ei brofi drosoch chi’ch hunan.

Mae gwinwyr Piere Chavin wedi mynd ati’n wahanol i’r rhan fwyaf. Yn lle creu gwin coch arferol ac wedyn tynnu’r alcohol allan, sudd grawnwin Cabernet Sauvignon heb ei eplesu oedd eu man cychwyn, ynghyd ag ychydig o berlysiau naturiol. Mae gan y ddiod flas mwyar duon dymunol, a dyw hi ddim yn rhy felys. Ond os ydych chi’n chwilio am rywbeth i gymryd lle’ch Cabernet Sauvignon arferol, efallai cewch chi’ch siomi.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​