Be Free Rosé

English | Cymraeg

Ein barn ar Be Free Rosé

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.05%
Calorïau ymhob gwydraid 250ml: 60 (24 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Mae Be Free Rosé yn hanu o’r Peter Mertes Weinkellerei ym mro hyfryd Nyffryn Moselle – sef Weinkulturland yn ôl rhai Almaenwyr.

Daw mewn potel smart gyda braslun pensil annwyl o feic modur hen-ffasiwn arni hi – gan ddwyn i gof Norton 500 hynafol Guevara a’i cariodd ar hyd a lled yr America Ladin. Dyw’r gwin yma ddim cweit mor anturus â Che, ond mae’n ddiod ddigon dymunol. Mae ganddo liw rhosaidd hyfryd a blas ffrwythaidd pleserus, ac mae’n weddol brin o galorïau hefyd.

Gallwch chi godi potelaid yn Asda.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​