Fre White Zinfandel

English | Cymraeg

Ein barn ar Fre White Zinfandel

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 70 (28 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Y peth cyntaf i’w ddweud am Zinfandel Gwyn yw nad gwin gwyn mohono – rosé yw e. Gwin coch yw Zinfandel fel arfer, ond os na adewch chi grwyn coch y grawnwin yn y sudd yn rhy hir, fe gewch chi win mwy gwelw o dipyn. Rywbryd yn yr 1970au, dysgodd Gwinwyr Sutter Home yng Nghaliffornia y gallwch chi ei wneud e dipyn bach yn fwy melys hefyd os cadwch chi fe rhag eplesu’n llawn.

Mae Sutter Home yn dal i wneud Zinfandel Gwyn, a bellach maen nhw wedi gwneud un heb yr alcohol. Rosé dymunol, mymryn yn felys ond heb fod ormodol felly, yw hwn. Yn ôl y cynhyrchwyr, mae’n dda fel diod picnic. Rhaid i ni gytuno. Diod berffaith yw hi ar gyfer diwrnodau poeth a nosweithiau barbeciw.

Fel y gwin coch a’r gwin gwyn o’r un gwindy, fe gewch chi’r Zinfandel Gwyn yma yn Asda.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​