Marks and Spencer Rosé

English | Cymraeg

Ein barn ar Marks and Spencer Rosé.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 68 (27 per 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Mae’r rosé yma dan frand Marks and Spencer yn rhan o adran ddi-alcohol sy’n tyfu o hyd mewn un o hoff siopau’r wlad. Fel nifer o werthwyr, mae’n eglur i Marks and Spencer nhw sylweddoli bod mwy a mwy o bobl am wario eu harian ar ddiodydd dirwestol.

Mae iddo liw neis, er bod y label ddi-fflach yn difetha’r olwg dipyn. Mae’n ddiod fymryn yn finiog – roedd un o’n panel profi yn cael rhyw awgrym gwsberis ynddi – ond efallai mai peth da yw hwnnw gan fod cymaint o winoedd di-alcohol yn rhy felys o dipyn. At ei gilydd, rosé derbyniol iawn yw hwn a diod berffaith ar gyfer yr haf.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​