Zera Rosé

English | Cymraeg

Ein barn ar Zera Rosé.

Sgôr:

2/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: wrthi’n aros gwybodaeth
Sgôr: 2 o 5

Wrth i ni ysgrifennu’r adolygiad yma, mae hydref yn prysur droi’n aeaf. Nid tywydd rosé delfrydol, o bosib. Ond bydd haf hirfelyn tesog ar ein gwarthaf ni yn ddigon buan, gyda heulwen a barbeciws a rosé. Ai am y Zera Rosé yma, felly, y byddwch chi’n ymestyn er mwyn gwlychu’r lôn goch wrth i chi lowcio’ch selsig a salad?

Mae ganddo flas ffrwythus dymunol – mefus, yn ôl ein panel profi – ond mae’n bell o fod yn win. Fel pob tro, dylech chi ei brofi drosoch chi’ch hunan, ond ein hawgrym ni i chi yw i chi edrych hefyd ar rai o’r gwinoedd rhosliw eraill ar y tudalennau hyn.

Cewch chi fach potelaid o Zera Rosé yn Holland and Barrett.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​