Bees Knees Rosé

English | Cymraeg

Ein barn ar Bees Knees Rosé

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 68 (27 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Mae hwn yn un o’r ychydig ddiodydd cwbl ddi-alcohol gewch chi ymhlith y gwinoedd wrth siopa. Mae felly’n addas i’r rhai sydd am lwyrymwrthod (am ba reswm bynnag). Fel mae’n digwydd, mae hefyd yn iawn i lysieuwyr a figaniaid, ac felly’n ticio sawl bocs.

Mae Bees Knees wedi’i greu o sudd grawnwin sydd wedi eplesu ond nid i’r fath raddau nes troi’n alcoholaidd. Yn wahanol i nifer o’r gwinoedd ar y tudalen yma, dyw e ddim wedi cael ei greu fel diod alcoholaidd ac wedyn cael ei ddadalcoholeiddio – proses sydd weithiau’n tynnu llawer mwy na’r alcohol allan o’r gwin. Fel yr Echo Falls Infusion, ychwanegwyd ato hefyd flas te gwyrdd, er nad oedd y blas yna’n amlwg iawn i ni wrth ei brofi.

Mae siâp y botel a’r label Art Noveau yn ddeniadol iawn, gan awgrymu mai diod arbennig yw hon. Wedi’i thywallt, mae ganddi liw rosé da a digon o swigod sy’n para’n hir.

Does dim dwywaith amdani, diod felys yw hon. Ond roedd ein panel profi yn anghytûn a oedd y melyster yn ormod neu beidio. Bydd eisiau i chi benderfynu ar hynny drosoch eich hunan. Os gwinoedd sych sydd at eich dant fel arfer, dyw hwn ddim i chi, yn ôl pob tebyg. Os blasau canolig-felys sy’n tynnu dŵr o’ch dannedd, rhowch gynnig arno.

Prynon ni Bees Knees yn Morrisons, ac mae hefyd ar gael trwy Ocado.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​