Benjamin Truffer Sparkling Muscato

English | Cymraeg

Ein barn ar Benjamin Truffer Sparkling Muscato

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob potel: Wrthi’n aros gwybodaeth

Y muscato pefriog hwn oedd y gwin di-alcohol cyntaf i ni ei brofi, ac roedd e’n ddechrau eithaf addawol i’n taith. Mae ganddo ddigon o swigod, ac er nad oes yma frathiad miniog gwin pefriog sych da, mae’n bell o fod yn rhy felys.

Yn ôl yn 2012, dywedodd Jilly Goolden mai hon oedd ei “diod ddi-alcohol orau” a bod ganddi “arogl swynol te jasmin”. Fasen ni ddim yn mynd mor bell â hynny, ond, wedi’i hoeri’n dda ar ddiwrnod poeth, mae hon yn ddiod dderbyniol iawn.

Yn Marks and Spencer prynon ni fe, a hyd y gwyddom ni dyna’r unig siop sy’n ei werthu.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​