Echo Falls Infusion

English | Cymraeg

Ein barn ar Echo Falls Infusion

Sgôr:

2/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 64 (25 per 100ml)
Sgôr: 2 o 5

O ran y farchnad win ym Mhrydain, mae Echo Falls yn un o’r mawrion. Wedi’i lansio yn 2003, mae eu “gwinoedd di-lol, hawdd-eu-hyfed” wedi dod yn hynod boblogaidd mewn byr o dro, gan drechu nifer o gystadleuwyr mwy traddodiadol. Yn 2014, cyflwynon nhw nifer o Fruit Fusions gyda chryfder tua 9% neu 10%. Echo Falls Infusion yw eu diod 0% gyntaf. Yn anffodus dyw hi ddim yn un o’u goreuon.

Mae gwaith brandio a marchnata Echo Falls yn benigamp fel arfer, gan ymgysylltu â’u llu o ddilynwyr ar Facebook i gael cyngor ar ailwampio eu diodydd. Mae’n rhyfedd, felly, iddyn nhw ddylunio potel mor hen-ffasiwn yr olwg (a thamaid bach fel Babycham) yn yr achos yma.

O ran golwg y ddiod ei hunan, wedi’i thywallt, mae ei lliw melyn yn dweud bod hon yn bell o fod yn win. O ran ei blas, os ydych chi’n chwilio am ddiod felys ddymunol, gwnaiff hon y tro. Mae rhyw arogl sierbet arni, a blas tipyn bach fel Schloer neu Appletiser. Yn ôl y label, mae “wedi’i gymysgu â thrwythau te gwyrdd naturiol” ond roedden ni’n methu eu blasu nhw, mae’n ddrwg ’da ni ddweud.

’Ta waeth, does rhaid i chi ddilyn ein cyngor ni bob tro; ac os ydych chi eisiau rhoi cynnig ar Echo Falls Infusion, mae ar werth yn Morrisons a Sainsburys ac mae wedi cael ei adolygu’n ffafriol iawn gan gwsmeriaid ar Amazon.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​