Eisberg Sparkling Blanc

English | Cymraeg

Ein barn ar Eisberg Sparkling Blanc

Sgôr:

2/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 62 (186 ymhob potel)

Mae’r gwneuthurwyr yn disgrifio hon fel “diod befriog wedi’i gwneud o win di-alcohol”. Nid dyna’r ffordd i ennill ein ffydd. Ond mae lliw melyn da iddo, fel Chardonnay o gasgen dderw. Ac fel y rosé, mae’n dod mewn potel ddeniadol gyda chorcyn go-iawn.

Mae digon o swigod a dyw e ddim yn rhy felys. Fel eu Sauvignon Blanc, diod ysgafn ddymunol yw hon, ond dyw hi ddim yn debyg iawn i win.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​