Eisberg Sparkling Rosé

English | Cymraeg

Ein barn ar Eisberg Sparkling Rosé

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 66 (198 ymhob potel)
Sgôr: 3 o 5

Tymor y rosé yw’r haf. Felly, ai hwn fydd yn golchi’r stêcs i lawr yn eich barbeciw chi?

Mae ganddo liw da ac mae’n fyrlymog iawn. Mae gwedd y botel yn well o dipyn na diwyg arferol Eisberg, ac maen corcyn Champagne go iawn – peth bach sy’n gwneud i’r cyfan deimlo’n fwy arbennig rywsut.

O ran y blas, mae’n felys. Mêl, meddai rhai. Sierbet, meddai rhai eraill. Ond nid gwin.

Os ydych chi’n awchu diod befriog binc, ewch amdani. Ond os ydych chi ar ôl gwin da, daliwch i chwilio.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​