Lindeman’s Chardonnay Pinot Noir Muscat

English | Cymraeg

Ein barn ar Lindeman’s Chardonnay Pinot Noir Muscat

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob gwydraid 250ml: 33 (13 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Amser maith yn ôl 1834 plannodd y meddyg o Sais Henry Lindeman ei winllan gyntaf ar arfordir De Cymru Newydd. Dechreuodd e ddanfon gwin yn ôl i’w famwlad yn 1858. Ychydig mwy na 160 mlynedd yn nes ymlaen, mae ei olynwyr wedi danfon y gwin di-alcohol rhagorol yma atom ni.

Mae’r gwin yma wedi’i becynnu’n dda mewn potel wyrddlas hyfryd, gydag adar a phili-palod prydferth ar y label. Yn bwysicach na hynny, mae’r gwin tu fewn yn un penigamp. Mae’r farchnad winoedd pefriog prin-eu-halcohol dan ei sang â diodydd ffrwythus gorfelys. Yn wahanol iawn i’r rheini, mae gan hwn y fath fin awchlym, sych sy’n nodweddu gwin pefriog da. Mae bron yn sur ond ddim gormod felly. Os ydych chi’n chwilio am win di-alcohol bywiog at unrhyw ddathliad (neu mond ar gyfer sefyllian yn yr ardd) rydym ni’n argymell hwn yn gryf.

Efallai oherwydd nad yw’n drymlwythog â siwgr, mae hefyd yn nodedig o brin o galorïau. Fel gweddill gwinoedd prin-eu-halcohol Lindeman – un coch ac un gwyn – cewch chi hwn yn Asda a Morrisons.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​