Noughty

English | Cymraeg

Ein barn ar Noughty

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 35 (14 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Mae’n anodd gwneud gwin di-alcohol da, ond ambell waith mae rhywun yn bwrw’r hoelen ar ei phen.

Mae Thomson & Scott wedi mynd ati i werthu Champagne a Prosecco gyda llai o siwgr, ac organig a figanaidd at hynny. Erbyn hyn, maen nhw wedi gwneud un gyda llai o alcohol – yn wir, heb ddim alcohol o gwbl i bob pwrpas. Ar gryfder o 0.05%, mae Noughty yn un o’r gwinoedd di-alcohol gorau sydd.

Fel Champagne arferol, mae wedi’i wneud o rawnwin Chardonnay, ac mae’n ddiod wych yr olwg mewn potel Champagne draddodiadol gyda chorcyn noeth ar ei phen. Mae’n tywallt yn dda ac yn gyforiog o swigod. Mae mymryn o rosliw iddo, a miniogrwydd gwin byrlymus da. Bydd y rhan fwyaf ohonon ni wedi cael gwinoedd o gryfder arferol nad ydyn nhw hanner cystal â hwn.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​