Rawson’s Retreat Chardonnay Pinot Noir Muscat

English | Cymraeg

Ein barn ar Rawson’s Retreat Chardonnay Pinot Noir Muscat

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 30 (90 ymhob potel)
Sgôr: 4 o 5

Pan brynwn ni win pefriog, mae fel arfer yn meddwl ein bod ni am ddathlu rhywbeth. Ond os ydych chi’n cadw draw o’r ddiod, a chithau’n cael gwahoddiad i briodas neu fedydd, mae’n fwy na thebyg mai â sudd oren y byddwch chi’n codi’r llwnc-destun wrth i bawb arall gael siampên.

Ond dim rhagor. Yn ôl Helen McGinn o’r Knackered Mother’s Wine Club, mae’r gwin bywiog yma yn “newid popeth”. Mae’n edrych yn dda, yn tywallt yn dda ac yn llawn swigod sy’n para. Dyw e ddim yn rhy felys chwaith.

Mae’n dod mewn potel wyrdd tywyll urddasol, gyda chorcyn pren go-iawn, gan wneud iddo deimlo fymryn yn fwy arbennig.

Rhaid cydnabod nad hwn yw gwin gwyn pefriog gorau’r byd, ond fe gawson winoedd alcoholaidd gwaeth o lawer mewn dathliadau ar hyd yn blynyddoedd. Mae’n bosibl bod dyddiau’r llwnc-destun sudd oren ar ben.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​