Sainsbury’s Sparkling

English | Cymraeg

Ein barn ar Sainsbury’s Sparkling

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 66 (198 ymhob potel)

Mae hwn yn tywallt yn dda gyda digon o swigod sy’n para’n ddigon hir. Mae’r lliw ychydig yn welw ond mae’r blas yn dda. Mae tipyn o felystra ond dim gormod, a hwnnw’n cael ei gytbwyso gan ryw finiogrwydd fel Champagne. Yn ôl Sainsbury’s, ar raddfa o 1 i 9, mae gan hwn felystra o 4.

Fel gwin pefriog Rawson’s Retreat, daw hwn mewn potel dda o wydr gwyrdd tywyll gyda chorcyn pren traddodiadol, sy’n gwneud i’r cyfan deimlo’n fwy arbennig.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​