Sainsbury’s Sparkling Chardonnay

English | Cymraeg

Ein barn ar Sainsbury’s Sparkling Chardonnay

Sgôr:

4/5

ABV: 0.5%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 60 (24 per 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Mae grawnwin Chardonnay i’w gweld yn tyfu mewn gwinllannoedd ar draws y byd, ond fuodd hanes y gwin ddim yn fêl i gyd. Ar un adeg, roedd pobl yn methu cael digon o’r stwff. Yna, mwya’ sydyn, roedd e’n annioddefol o anffasiynol. Mae rhai yn bwrw’r bai ar y ddyddiadurwraig benchwiban Bridget Jones. Mae rhai eraill yn dweud bod gwinwyr wedi mynd dros ben llestri gyda’r sglodion derw, nes bod mwy o flas derw na grawnwin yn y gwin. P’un bynnag oedd y gwir reswm, byrhoedlog oedd amser Chardonnay yn yr anialwch ac mae pawb yn dwlu arno unwaith eto.

Mewn gwirionedd, trwy holl fympwyon ffasiwn, mae grawnwin Chardonnay wedi aros yn gynhwysyn hollbwysig mewn nifer o winoedd pefriog, gan gynnwys Champagne. Maen nhw hefyd i’w cael ar eu pennau eu hunain yn y gwin gwyn pefriog mae’r Ffrancod yn ei alw yn blanc de blancs (“gwyn o’r gwynion”) – a dyna’n union yw hwn.

O gofio’r cysylltiad â Champagne, does dim syndod bod rhyw naws Champenoise i’r gwin yma – mymryn o wynt burum a blas miniog, bron yn sur. Diod ar gyfer y rhai sy’n hoffi eu gwinoedd yn sych yw hwn. Mae damaid yn fwy melys na’r Chardonnay Pinot Noir Muscat gan Rawson’s Retreat, ond mae’n sychach o dipyn na phob un arall o’r gwinoedd pefriog ar y tudalen yma.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​