Sainsbury’s Sauvignon Blanc

English | Cymraeg

Ein barn ar Sainsbury’s Sauvignon Blanc

Sgôr:

3/5

ABV: 0.5%
Calorïau ymhob gwydryn 250ml: 53 (21 per 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Ynghyd â Cabernet Sauvignon, Chardonnay pefriog, a Merlot Rosé, mae’r Sauvignon Blanc newydd yma yn rhan o ymdrech gan Sainsbury’s i wella eu gwinoedd prin-eu-halcohol yn sylweddol.

Mae diwyg y botel yn gryn welliant o gymharu â labeli blaenorol eu gwinoedd llai alcoholaidd. O’r diwedd, mae fel pe bai’r siopau mawrion yn sylweddoli bod angen gwneud i winoedd llai-eu-halcohol fod yn fwy apelgar o dipyn, yn lle bod yn ddewis anfoddog i’r rhai sydd ar y wagen.

Fel sy’n digwydd yn aml, roedd ein paneli profi yn methu cytuno ar y gwin yma, sydd ’mond yn dangos mai mater o chwaith yw blas! Yn ôl y broliant ar y botel, mae’r Sauvignon Blanc yma’n blasu fel afalau gwyrddion, ffrwythau’r pasiwn a grawnffrwyth. Dim dyna’r blasau gawson ni, er bod un person yn credu ei fod yn blasu fel seidr gellyg. Roedd rhywun arall bod ganddo adflas miniog fel gwin a’i fod yn teimlo’n weddol alcoholaidd.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​