Hogan’s High Sobriety

English | Cymraeg

Ein barn ar Hogan’s High Sobriety

Sgôr:

5/5

Cryfder: 1%
Calorïau ymhob potelaid: 90 (18 ymhob 100ml)
Sgôr: 5 o 5

Mae’r teulu Hogan yn gwneud seidr ym mherfeddwlad Lloegr ers 1985. Erbyn hyn, maen nhw’n cynhyrchu 16 math, gan gynnwys y seidr newydd yma a lansiwyd yn 2019.

Mae’n ddiod wych yr olwg, mewn potel frown draddodiadol dwt. Mae’n fywiog heb fod yn rhy fyrlymus. Gan ganddi hi liw euraidd annisgwyl o dywyll – tywyllach na’r rhelyw o seidrau – ac mae arni arogl a blas seidr Seisnig o safon.

Fel sy’n digwydd yn aml, roedd ein panel profi yn methu cytuno ar beth roedden nhw’n ei hoffi am y ddiod yma, ond roedden nhw i gyd yn cytuno eu bod nhw ei hoffi. Ym marn rhai, roedd yn debyg i’r prif frandiau seidr masnachol; roedd eraill yn ei gweld yn debycach i seidr fferm. Y naill ffordd neu’r llall, dyma’r un o’r seidrau gorau gawson ni hyd yn hyn.

Ar 1%, mae’n un o’r diodydd cryfaf ar y wefan yma. Os oes gennych chi resymau arbennig dros osgoi alcohol yn gyfan gwbl, efallai nad dyma’r ddiod i chi. Ond os ydych chi’n chwilio gallwch chi ei yfed heb feddwi, mae’n berffaith.

Gallwch chi brynu High Sobriety ar-lein yn syth o’r berllan.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​