Marks and Spencer Low Alcohol Cider

English | Cymraeg

Ein barn ar Marks and Spencer Low Alcohol Cider.

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 96 (29 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Fel llawer seidr da, mae hwn yn hanu o sir Henffordd. Cafodd ei greu ar gyfer Marks and Spencer gan Weston’s, sy’n tyfu afalau a’u troi nhw’n seidr yn Nyffryn Gwy ers 1880.

Mae Marks and Spencer yn gwerthu’r seidr yma yn ymyl seidr di-alcohol Stowford Press, sydd hefyd o ffatri Weston. Mae’n amlwg, felly, eu bod nhw’n ei weld yn llenwi blwch gwahanol yn y farchnad. Yn sicr, mae’r seidr yma dan frand Marks and Spencer yn fwy melys na Stowford Press, ac, at ei gilydd, dyw hi ddim yn ddiod hanner mor ddiddorol. Fel mewn sawl achos arall, dwedwn ni, mae’r seidrau’r prif archfarchnadoedd yn methu cyrraedd safon y ddau orau o’r seidrau prin-eu-halcohol: Stowford Press a Sheppy’s.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​