Old Mout Cherries & Berries

English | Cymraeg

Ein barn ar Old Mout Cherries & Berries

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.%
Calorïau ymhob can: 190 (38 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5


Cychwynnodd stori seidr Old Mout yn Nyffryn Moutere (sy’n rhoi i’r ddiod ei henw) yn Seland Newydd, yn ôl yn 1947. Ond nid tan yn weddol ddiweddar y daeth i’r ynysoedd hyn. Mae i’w gael erbyn hyn mewn siopau a thafarndai o Gernyw i Gaeredin. Mae’r cwmni’n dal i wneud yn fawr o’u gwreiddiau ar ochr draw’r byd, er bod yn seidr, yn ôl pob golwg, yn cael ei greu ychydig yn nes adref i ni, gan Bulmersyn sir Henffordd (perfeddwlad bro’r perllannau), a Heineken, prif fragwyr yr Iseldiroedd, sy’n berchen ar y brand.

Mae’r seidrCeirios ac Aeron newydd yma yn ymuno â chasgliad o seidrau Old Mout sy’n cynnwys Mefus a Phomgranad, Ciwi a Leim, Ffrwythau Pasiwn ac Afal, ac Aeron yr Haf, a phob arall un gyda chryfder o 4%. Felly, sut mae hwn, ar 0%, yn cymharu?

Wel, mae’n ddiod wych yr olwg. Mae lliwiau’r label yn ddwfn a chynnes, gyda lluniau o ffrwythau aeddfed i dynnu dŵr o’ch dannedd, a chiwi bach annwyl. O ran y blas, mae felys – melys iawn. Er ei fod yn gyforiog o afalau a ffrwythau naturiol eraill, dŵr a siwgr yw’r ddau gynhwysyn cyntaf a enwir ar y can.

A bod yn deg, mae seidrau alcoholaidd Old Mout yn adnabyddus fel rhai melys. Os ydych chi’n un mawr am seidr traddodiadol, mae’n debyg eich bod chi eisoes yn gwybod nad ydyn nhw ddim at eich dant. Ar y llaw arall, os ydych chi’n un o’r miloedd lawer sydd wedi gwneud seidrau ffrwythus mor llwyddiannus yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a chithau’n ceisio yfed mymryn yn llai o alcohol, efallai bydd hwn yn berffaith i chi. Gwnaethon gymharu’r seidr di-alcohol yma gyda’r seidr o’r un blas o’r un bragdy ond gyda chryfder alcoholaidd arferol, a rhaid dweud bod y ddwy ddiod yn debyg iawn i’w gilydd.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​