Sainsbury’s English Apple Cider

English | Cymraeg

Ein barn ar Sainsbury’s English Apple Cider.

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0.9%
Calorïau ymhob potelaid: 150 (30 ymhob 100ml)

Yn ein barn ni, roedd seidr prin-ei-alcohol diwethaf Sainsbury’s yn rhy felys o dipyn, ac yn dipyn o siom, a dweud y gwir. Felly, roedden ni’n awyddus i roi cynnig ar hwn, sydd wedi cymryd ei le, pan welsom ni fe ar y silffoedd tua chanol 2022. Fel gwelwch chi o’n sgôr – 5 pwynt allan o 5 – roedden ni wrth ein bodd. Dyna seidr gweddol sych a gwirioneddol dda. Mae ganddo liw euraidd, sy’n dod o gael ei aeddfedu mewn casgenni derw, ac mae’n gyforiog o flasau afalaidd. Mae’n anodd peidio â’i hoffi. Os yw seidr traddodiadol at eich dant, dylech chi drio hwn.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​