St Clement’s Afal a Gellyg

English | Cymraeg

Ein barn ar St Clement’s Afal a Gellyg

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob potelaid: 110 (22 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Daw’r ddiod sudd newydd yma o ffatrïoedd AG Barr, sy’n creu diodydd ysgafn i’r werin ers 1875. Maen nhw’n fwyaf adnabyddus am ffefryn oren yr Albanwyr Irn Bru, ond maen nhw’n gwneud llawer mwy a phop lliwgar y dyddiau hyn ac mae St Clement’s yn un o nifer o ddiodydd ganddyn nhw sydd ar gyfer oedolion yn anad dim.

Er nad seidr yw St Clement’s, rydym ni’n ei hadolygu yma gyda’r seidrau gan ei bod wedi’i phecynnu fel seidr mewn potel frown draddodiadol ac yn cael ei gwerthu gan Sainsbury’s ymhlith y seidrau di-alcohol eraill. Er hynny, diod eithaf melys yw hi ac efallai bydd hi fwy at ddant y rhai sy’n mwynhau seidrau melys Sweden fel Kopparberg na charedigion seidr traddodiadol. Mae’r blas gellyg yn dod drwodd yn gryf hefyd, felly os oes rhai o selogion y perai hen-ffasiwn am yfed mymryn llai o alcohol, gallai fod yno droedle arall yn y farchnad i St Clement’s.

Pob clod i Barr hefyd am un o’r labeli cliriaf welsom ni hyd yn hyn. Hyd y gwyddom ni, dyma’r unig ddiod buom ni’n ei phrofi ar gyfer y wefan yma sy’n cario gwybodaeth syml a chlir ar ffurf goleuadau traffig.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​