St Clement’s Mafon a Mwyar

English | Cymraeg

Ein barn ar St Clement’s Mafon a Mwyar

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob potelaid: 110 (22 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Mae’r ddiod ffrwythus newydd yma yn un o bâr gyda diod Afal a Gellyg. Mae’r ddwy ddiod fel ei gilydd yn rhan o gasgliad go eang o ddiodydd ysgafn i oedolion gan AG Barr, sy’n fwy adnabyddus fel creawdwyr ‘diod genedlaethol’ yr Alban: Irn Bru.

Er mai cymysgedd o ddŵr byrlymus a suddion ffrwythau yw hon, mae wedi’i phecynnu fel seidr ac yn cael ei gwerthu gan Sainsbury’s wrth ochr y cwrw a’r seidr di-alcohol yn eu siopau. O ran ei blas, mae’n nes at seidrau melys modern na seidr fferm traddodiadol. Er hynny, nid oes ganddi’r un melystra mawr â Kopparberg neu Rekorderlig, er enghraifft, a gallai hi fod yn ddewis da i’r rhai sy’n chwilio am seidr ffrwythus gyda llai o alcohol a llai o siwgr.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​