Strongbow Dark Fruit

English | Cymraeg

Ein barn ar Strongbow Dark Fruit.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: 73 (22 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Mae Strongbow yn un o seidrau mwyaf poblogaidd Prydain ers amser maith, ac mae’r seidr tywyll hwn yn un o’i flasau mwyaf poblogaidd. Pan mae diod fel hon yn ymddangos ar 0.5%, mae’n weddol eglur fod y prif gynhyrchwyr seidr yn cymryd y farchnad ddirwestol o ddifri.

Ai dyma’r seidr i chi, felly? Wel, mae hynny’n dibynnu ar ba fath o seidr sydd at eich dant. Os ydych chi’n un o selogion seidr fferm traddodiadol, bydd hwn yn rhy felys i chi a byddai’n well i chi droi at Sheppy’s neu Hogan’s, er enghraifft. Ar y llaw arall, os ydych chi’n un o’r nifer fawr o yfwyr sy’n mwynhau seidr ffrwythus mwy melys, dylech chi roi cynnig ar hwn, yn sicr. Er mor felys yw e, nid yw mor siwgraidd â seidrau di-alcohol Kopparberg, ac efallai bydd e’n cynnig tir canol derbyniol i lawer un.

Y clod mwyaf gallwn ni ei roi iddo, o bosib, yw i ddweud i ni ei brofi e ochr-yn-ochr â’r ddiod gyfatebol ar gryfder o 4% heb sylwi ar fawr ddim gwahaniaeth. Wrth gwrs, mae gan alcohol flas a theimlad unigryw, a byddwch chi wastad yn sylwi ar ei absenoldeb mewn diod; ond ar wahân i hynny mae holl elfennau seidr ffrwythus yma i chi eu mwynhau.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​