Thatchers Zero

English | Cymraeg

Ein barn ar Thatchers Zero.

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: wrthi’n aros gwybodaeth
Sgôr: 3 o 5

1904 oedd hi pan ddechreuodd William John Thatcher wneud seidr ar Fferm y Myrtwydd yng Ngwlad-yr-Haf. Yn ôl y sôn, yn y dyddiau cynnar roedd gweithwyr ei berllannau yn cael eu talu yn rhannol â seidr!

Bellach yn un o brif gwmnïau seidr Prydain, mentrodd Thatchers i mewn i’r farchnad ddi-alcohol ar ddechrau 2020, gyda diod sy’n sicr o apelio’n eang. Rhaid eu canmol hefyd am greu un o’r ychydig iawn o seidrau cwbl ddi-alcohol sydd ar gael.

Mae gan y seidr yma liw euraidd, golau, clir, ac wrth ei dywallt mae digon o ewyn a swigod. Seidr gweddol sych yw e, heb fod yn rhy siwgrllyd, ac yn hyn o beth mae’n debyg i Smashed Apple gan Dry Drinks. Mae blas afalau drwyddo draw ond heb ryw lawer o frathiad. Dyma seidr addfwyn, ysgafn, sy’n sicr o dorri syched. Cafodd ei wobrwyo yng Ngwobrau Di-alcohol Imbibe yng Nghorffennaf 2020 fel y Seidr Gorau.

Bydd e’n gwneud y tro i’r dim ar gyfer unrhyw haf hirfelyn tesog!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​