Waitrose Low-Alcohol Cider

English | Cymraeg

Ein barn ar Waitrose Low-Alcohol Cider

Sgôr:

4/5

ABV: 1%
Calorïau ymhob potelaid: 160 (32 per 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Mae cyfeillion lu yn dweud wrthyn ni am drio hwn ers misoedd. Felly penderfynon ni ’bod hi’n hen bryd i ni ei throi hi am Waitrose i godi ychydig ohonyn nhw.

O sir Henffordd mae’r seidr yma’n yn hanu, sydd fel arfer yn fan cychwyn da i seidr. Mae wedi’i aeddfedu mewn casgenni derw, sy’n rhoi iddo ei liw caramel hyfryd, o bosib.

Fel llawer o ddiodydd yr archfarchnadoedd o dan eu henwau eu hunain, dyw’r botel na’r label ddim yn gyffrous tu hwnt, ond anwybyddwn ni hynny am y tro. Mae golwg dda ar y ddiod ei hunan, ac mae’n gwynto fel afalau (unwaith eto, man cychwyn da i seidr fel arfer).

Mae yna ychydig o swigod ond dim gormod. Mae’n bosibl y bydd e’n rhy felys i rai, ond dyw e ddim hanner mor felys â KopparbergKoppaberg. At ei gilydd, mae lawn cystal â’r rhan fwyaf o’r brandiau seidr mawrion gewch chi wrth y bar neu mewn caniau.

Felly, os seidr yw eich dewis ddiod, a chithau’n awyddus i leihau eich alcohol, efallai mai hwn yw eich ateb.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​