Moctêls gan Asda: Pina Colada, Daiquiri, Mojito

English | Cymraeg

Ein barn ar Asda Mocktails: Pina Colada, Daiquiri, Mojito

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%
Calorïau : Pina Colada 40, Daiquiri 20, Mojito 18
Sgôr: Pina Colada 4 o 5, Daiquiri a Mojito 3 o 5

Mae coctêls di-alcohol yn amrywio o’r gwych i’r gwachul. Gyda’r cyfuniad cywir o sudd a sbeis, gallan nhw fod yn rhagorol. Dyw’r rhai gwaethaf, ar y llaw arall, fawr gwell na sgwosh drud mewn grwydryn ffansi. Dyw’r driawd yma o ddiodydd o Asda ddim yn berffaith, ond mae pob un ohonyn nhw’n ffres, adfywiol, a heb fod yn rhy felys.

Cymysgedd syml o sudd pîn-afal a llaeth cnau coco yw’r Piña Colada. Dim byd rhy gymhleth – dim ond cyfuniad ffrwythus blasus. Dyma’r gorau o’r tri, yn ei barn ni. O’i ran e, mae’r Daiquiri yn llwyddo i ddal blas melys-sur unigryw mefus yn dda, gyda mymryn o leim i roi min iddo a’i gadw rhag melystra gormodol. Ac yn drydydd, diod ddymunol gyda leim a mintys yw’r Mojito. Dyw e ddim cweit yn taro deuddeg, ond wedi’i weini ar rew mâl, mae’n dod yn agos.

Yn ddiddorol, mae Asda wedi gosod y diodydd hyn gyda’r suddion ffrwythau eraill yn hytrach na’r coctêls alcoholaidd. At hynny, gellid honni fod y poteli, gyda’u haid o adar trofannol annwyl, yn eithaf apelgar i blant hefyd. Pan gawson nhw eu lansio’n gyntaf all yn 2012, roedd diwyg mwy aeddfed o dipyn iddyn nhw. Efallai bydd hyn yn peri i rai bryderu gallai’r diodydd hyn fod yn garreg llamu i blant tuag at yfed coctêls arferol. Mater i rieni a chynhalwyr unigol yw penderfynu ddylen nhw eu rhoi i blant neu beidio. I oedolion sy’n hoffi coctêls ac yn awyddus i yfed llai o alcohol – neu mond yn chwilio am ddiodydd neis at yr haf – byddan nhw’n gwneud y tro i’r dim.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​