Nozeco Buck’s Fizz 

English | Cymraeg

Ein Barn Ar Nozeco Buck’s Fizz 

Sgôr:

5/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 36 
Sgôr: 5 o 5

I bobl o ryw oedran arbennig, band yw Buck’s Fizz – un o’r ychydig rai o’r ynysoedd hyn i fod yn fuddugol yng Nghystadleuaeth Canu Eurovision. Roedd y band yn eithaf tebyg i’r coctel a roddodd iddo ei enw: heb fod yn arbennig o cŵl ond digon o hwyl, a Phrydeinig dros ben.

Yn ôl y sôn, cafodd y ddiod Buck’s Fizz ei dyfeisio yn 1921 gan Malachy McGarry, barmon y Buck’s Club, hen glwb i fonheddwyr Llundain. Ambell waith mae’n cael ei gwneud gyda surop grenadîn, ond fel arfer sudd oren a Siampên yw’r unig gynhwysion. Ar hyd y blynyddoedd daeth hi’n rhan o’r dathliadau o gwmpas chwaraeon yr haf, a hefyd yn rhan o fore Nadolig, ar ffurf “brecwast Siampên”. Dyw alcohol ar gyfer brecwast ddim bob tro’n syniad arbennig o dda, ac mae’r Nozeco Buck’s Fizz yn cynnig opsiwn arall i unrhyw un sydd am gadw eu pen yn glir. 

Mae’n anodd gweld bai ar y ddiod yma. Mae’n llawn bwrlwm, brathiad a miniogrwydd sitrws. Os yw’r blas yn rhy siarp i chi, gallwch chi wastad ychwanegu mymryn o grenadîn, ond i ni mae hi’n berffaith fel mae hi. 

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​