Savyll Mojito

English | Cymraeg

Ein barn ar Savyll Mojito.

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%
Calorïau ymhob potelaid: 71 (27 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Dyma adolygiad gan ein hawduron gwâdd Adela Meer a Susan Laurie

Mae sylfaenydd cwmni Savyll, Avnish Babla, yn ei ddisgrifio ei hunan fel “alcemydd partïon cinio”. Lansiodd e’r casgliad yma o ddiodydd er mwyn ceisio ail-greu rhai o hoff goctels gwesteion ei bartïon mewn ffyrdd di-alcohol a dyfeisgar, gan gynnwys y mojito yma.

Y peth cyntaf i’w ddweud yw mai diod wych yr olwg yw hon. Mae ganddi liw mojito da ac mae’n dod mewn potel wydr drwsiadus gyda chapan copr twt. O ran y blas, roedd ein dau flaswr yn ei gweld yn ddiod ddymunol ond heb fod yn syfrdanol. Yn ôl un, roedd hi’n “flasus gyda chymysgedd da o felys a miniog” ac roedden nhw’n mwynhau’r “arogl leim go-iawn” ond yn gweld y swigod yn “elfen ryfedd braidd, yn gwneud i chi feddwl am lemonêd yn fwy na mojito”. Roedd y llall yn ei chael yn ddiod neis ond yn brin o gic.

Roedden nhw’n anghytuno hefyd o ran eu sgoriau: pedwar pwynt allan o bump gan un, a thri allan o bump gan y llall. Felly, fe roddon ni sgôr o dri a hanner iddi yn y diwedd.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​