Savyll Moscow Mule

English | Cymraeg

Ein barn ar Savyll Moscow Mule.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: wrthi’n aros gwybodaeth
Sgôrcore: 4 o 5

Dyma adolygiad gan ein hawdur gwadd Trevor Twohig

Yn ôl y broliant, mae diodydd Savyll yn “Raenus, Hyderus, Hygyrch” ac mae’r Moscow Mule yma yn dipyn o ddiod!

Un sy’n hoffi Moscow Mule fel arfer ydw i, ac mae hon yn taro’r targed ac yn gogleisio’r tafod! Mae’n drwmlwythog â sigwr (fel llawer o goctels) ond mae’r blas yn fwy cymhleth na hynny hefyd. Mae ganddo’r un lliw â’i gefnder mwy meddwol, a’r un arogl hefyd.

Mae’r botel wydr gyda aur rhosliw ar gefndir glas tywyll yn creu pecyn penigamp. Trueni fod y botel mor fach â 250ml: bydd y ddiod gyfan i lawr y lôn goch yn fuan wedi i chi roi cychwyn arni! Ond os Moscow Mule yw’ch dewis ddiod, bydd hon yn ddiod at eich dant!

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​