London Essence Eirin Ysgaw a Rhosyn Saron

English | Cymraeg

Ein barn ar London Essence Eirin Ysgaw a Rhosyn Saron

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 95 (19 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Mae’r llymaid Eirin Ysgaw a Rhosyn Saron yma yn un o nifer gan y London Essence Company, a sefydlwyd yn 1896 a’i adfywio’n ddiweddar fel creawdwyr diodydd moethus ar gyfer eu cymysgu gyda gwirodydd. Wrth gwrs, dyw’r ffaith fod diod wedi’i chreu ar gyfer ei chymysgu ddim yn meddwl fod rhaid i chi ei chymysgu; ac os byddwch chi’n ei chymysgu, does dim rhaid ei chymysgu ac alcohol. Yn union fel y ddiod Eirin Gwlanog a Jasmin uchod, mae hon yn gallu dod allan ar ei phen ei hunan os dymunwch.

Fel sy’n digwydd yn aml, roedd ein panel profi yn methu cytuno ynglŷn â’r ddiod yma. Roedd rhai wrth eu bodd, ond rhain eraill yn ei gweld yn rhy debyg i soda a chyrens duon (dewis ddiod dirwestwyr yn nhafarndai’r 1908au). Unwaith eto, bydd rhaid i chi farnu drosoch eich hunan. Cewch chi ei phrynu yn Waitrose a thrwy Ocado, ac mae gan y ddwy siop ddetholiad da o ddiodydd London Essence.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​