London Essence Eirin Gwlanog Gwyn a Jasmin

English | Cymraeg

Ein barn ar London Essence Eirin Gwlanog Gwyn a Jasmin

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 95 (19 ymhob 100ml)
Sgôr: 3 o 5

Wedi’i sefydlu yn 1896, roedd y London Essence Company yn arbenigo ar ddistyllu ffrwythau a pherlysiau er mwyn creu rhiniau ar gyfer persawr, losin a diodydd. Yn 2016, agorwyd archifau’r cwmni, gan ddatguddio hen ryseitiau a ddaeth yn ysbrydoliaeth i gasgliad newydd o ddiodydd di-alcohol – ar gyfer eu cymysgu gyda gwirodydd, ynteu eu mwynhau fel maen nhw.

Mae’n eglur fod adfywio’r cwmni wedi esgor ar lwyddiant mawr, ac mae ei gynnyrch ar gael bellach yn y siopau mwyaf moethus ac mewn tafarndai ffasiynol o Efrog Newydd i Hong Cong. Fydd dim rhaid i chithau fynd mor bell â hynny er mwyn eu profi, gan eu bod ar werth hefyd yn Waitrose ac Ocado, a’r ddau werthwr yn cynnig cryn ddetholiad o ddiodydd y cwmni.

Yn ein barn ni, roedd y ddiod eirian gwlanog a jasmin yma yn un ddigon dymunol, heb fod yn rhy felys, a gydag arogl blodeuog hyfryd. Mae hefyd yn hynod brin ei chalorïau er nad oes ynddi ddim melysyddion artiffisial.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​