T&E

English | Cymraeg

Ein barn ar T&E

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob potelaid: 83 (30 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Wrth i lwyrymwrthod ddod unwaith eto’n ffasiynol, mae cwmni Thomas and Evans wedi cael eu hysbrydoli gan ddirwestwyr y gorffennol – yn benodol gan William Thomas ac William Evans, dau ddyn busnes oedd yn arbenigo ar ddarparu diodydd di-alcohol i yfwyr oes Fictoria.

Mae’r ddiod hynod yma wedi’i chreu â mwy nag ugain o gynhwysion, gan gynnwys afalau, blodau’r ysgaw, croen sitrws, a thintur derw, i gyd wedi’u hidlo trwy olosg bedwen arian, a’u cyflwyno mewn potel hardd Fictoraidd yr olwg.

Mae’n ddigon byrlymus, ac iddi arlliw lledwyrdd hyfryd. Roedd ein panel profi yn methu cytuno ar beth roedd yn blas yn ei ddwyn i gof – ciwcymbr yn ôl rhai, leim ym marn rhai eraill. Doedden ni ddim yn sicr chwaith ddylai hi fod gyda’r jin-a-thonic (fel mae ei enw yn awgrymu) ynteu gyda’r ddiodydd soda. Ta waeth am hynny, diod ddymunol iawn at ei gilydd.

Gallwch chi brynu T&E trwy Ocado ac Waitrose, lle mae sawl cwsmer wedi bod yn canu ei chlod.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​