Ein barn ar ddiodydd Seedlip

English | Cymraeg

Ein barn ar Seedlip Spirit 94, Garden 108 and Grove 42.

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0%
Calorïau: 0
Sgôr: 3 o 5

Mae’r rhain yn rhai o’r diodydd di-alcohol mwyaf annisgwyl yn y farchnad. A rhaid i ni gyfaddef nad oedden ni’n hollol siŵr beth i’w feddwl amdanyn nhw. Maen nhw’n cael eu marchnata fel “gwirodydd di-alcohol cynta’r byd”. Mae’n dibynnu sut rydych chi’n diffinio hynny, gan fod diodydd sy’n honni bod yn wisgi di-alcohol er gael ers yr 1990au (er na fuon nhw at ddant pawb!)

Daw ryseitiau Seedlip o lyfr hynod o’r 17eg ganrif The Art of Distillation. Mae golwg jin ffasiynol gan ryw ddistyllwr bach arnyn nhw, ac dyna sut roedden ni’n disgwyl iddyn nhw flasu. Dim o gwbl – does yma’r awgrym lleiaf o jwniper. Blasau unigryw sydd gan y tair ddiod:

  • Mae Spirit 94 wedi’i chreu â phupur Jamaica, cardamom, derw, lemwn a grawnffrwyth. Y derw yw’r blas cryfaf, yn sicr. Mae blas gwirioneddol brennaidd i’r ddiod – fel pren sandal, efallai
  • Mae Garden 108 yn cynnwys pys, mintys, rhosmari a theim. Unwaith eto, un blas sydd gryfaf, a’r pys yw hwnnw
  • Mae gan Grove 42 dri math o oren, croen lemwn a lemwnwellt. Mae’n debyg mai hon sydd â’r blas mwyaf cynnil o’r tair

Wedi eu prynu, ein cwestiwn nesaf oedd sut i’w hyfed. Trïon ni nhw ar eu pennau eu hunain, ond roedd hi’n amlwg nad dyma’r ffordd i’w cymryd – y mae’r blasau’n llawer rhy gryf am hynny. Eu gweini gyda thonic o safon yw’r awgrym ar botel y 94, tonic blodau’r ysgaw ar gyfer y 108, a thonic neu soda gyda 42. Felly, dyna wnaethon ni. Cawson ni dair diod ysgafn ac adfywiol. Gallwn ni ddychmygu eu llymeitian ar daith cwch ar hyd dyfroedd tawel ar ryw brynhawngwaith teg o haf hirfelyn tesog. Nid G&T mo hon. A dweud y gwir, rydyn ni’n ansicr o hyd beth yw hi, ond os ydych chi’n chwilio am flasau annisgwyl, ewch amdani

Mae diwyg y poteli yn rhoi’r neges yn glir mai diodydd arbennig, moethus hyd yn oed, yw’r rhain. Mewn modd go ddyfeisgar, maen nhw’n defnyddio cynhwysion y diodydd i greu luniau o lwynog, sgwarnog a gwiwer goch, rhai o greaduriaid mwyaf adnabyddus cefn gwlad, a rhai mae cryn dipyn o ddirgelwch a chwedloniaeth yn eu cylch hefyd.

O edrych ar y wybodaeth faeth, does dim un calori ynddyn nhw. Felly’r calorïau yn eich tonic yw’r unig rai i chi feddwl amdanyn nhw.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​