Atopia

English | Cymraeg

Ein barn ar Atopia

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob 100ml: 23
Sgôr: 4 o 5

O’r holl ddiodydd di-alcohol sydd ar gael y dyddiau hyn, rhaid mai “gwirodydd di-alcohol” yw’r mwyaf annisgwyl. Ond pryd mae rhai o ddistyllwyr mwyaf yn bwrw ati i greu diodydd o’r fath, mae’n eglur nad rhyw fympwy fyrhoedlog yw hyn i gyd.

Crëwyd Atopia gan William Grant a’i Feibion, y bobl sy’n gyfrifol am rai o wisgis mwyaf poblogaidd yr Alban, ac un o brif gwmnïau diodydd y byd. Mae’n ddiod wych yr olwg, mewn potel hardd gyda chorcyn pren anferth a llun o ffrwythau a sbeisys sydd i’w weld trwy syllu trwy’r ddiod ei hun. Mae’n ddiwyg trawiadol sy’n ei gwahaniaethu’n glir oddi wrth ei chystadleuwyr ar y silffoedd.

Yn wahanol i’r rhan fwyaf o wirodydd di-alcohol hefyd, mae hon yn blasu’n eithaf da ar ei phen ei hunan, er bod ei gwneuthurwyr yn awgrymu ei gweini gyda thonic. Mae mymryn o wynt Cointreau arni ac mae’r blas yn gymysgedd dymunol o felystra a miniogrwydd sitrws. Mae rhyw deimlad cynhesol iddi hefyd – “Nadoligaidd” yn ôl un o’n panel profi.

O’r holl ddiodydd yn y categori yma, efallai mai hon fydd â’r apêl ehangaf, er bod ei phris – £24 pan brynon ni botelaid – yn debygol fod yn ormod i rai. Cewch chi hi yn Sainsbury’s.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​