Caleño Light and Zesty

English | Cymraeg

Ein barn ar Caleño Light and Zesty.

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau: 39 (ymhob 100 ml)
Sgôr: 3 o 5

Rhaid bod hon yn un o’r gwirodydd di-alcohol mwyaf diddorol i gyrraedd y farchnad yn ddiweddar. Roedd sefydlydd Caleño, Ellie Webb, wedi’i hysbrydoli gan Golombia – gwlad sy’n agos at ei chalon, yn sicr – i greu cymysgedd hynod o ffrwythau a sbeis.

Yn wahanol i lawer o’r diodydd eraill yn y categori yma, dyw hon ddim fel jin o gwbl. Er bod meryw ynddi hi, mae nodau eraill yn dod drwodd yn gryfach – cardamom, lemwn, ac gwsbers Periw. Mae ganddi flas ffrwythaidd hyfryd, heb fod yn rhy felys, ac mae’n wirioneddol adfywiol. Blas cynnil iawn yw e, ac er bod y cynhyrchwyr yn argymell yfed Caleño gyda thonic, efallai ei bod yn werth ei thrio gyda dŵr soda hefyd, gan fod tonic weithiau’n gallu ei llethu.

Mae diwyg y botel yn awgrymu mai diod foethus yw hon, tua’r un lefel â Seedlip yn y farchnad, a gallwch chi ddisgwyl ei gweld mewn bariau sy’n arbenigo ar goctêls. Gobeithio bydd ar gael yn fuan hefyd mewn ambell archfarchnad, er mwyn ehangu’r dewis i gwsmeriaid yno hefyd. Cawson ni hi ar werth yn Sainsbury’s.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​