Ceder’s Classic and Crisp

English | Cymraeg

Ein barn ar Ceder’s Classic and Crisp

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.0%
Calorïau ymhob 100ml: Wrthi’n aros gwybodaeth
Sgôr: 3 o 5

Mae ymhonnwr newydd am gipio coron Seedlip yn nheyrnas y “jin amgen” – ymhonnwr ac iddo hanes diddorol.

Daw enw diodydd Ceder o ardal ogoneddus Cederberg yng Ngorllewin y Penrhyn – man sy’n adnabyddus am ei harddwch garw a’i phlanhigion unigryw. Mae ychydig o’r fath blanhigion egsotig i’w cael yn y diodydd newydd hyn, sy’n ffrwyth partneriaeth ryngwladol rhwng Craig (o Dde Affrica) a Maria (o Sweden). Gyda’i gilydd, mae’r pâr wedi cymysgu perlysiau De Affrica fel rooibos a fynbos gyda dŵr pur o Sweden, er mwyn creu “jin amgen distyll sy’n gadael i chi ddianc a cheisio cytgord”.

Rhoddon ni gynnig ar ddau flas: y Classic – gyda merywen, coriander a phig y crëyr; a’r Crisp – gyda merywen , ciwcymbr a chamri. O blith y ddau, y Crisp oedd ein ffefryn ni o bell ffordd. Mae ganddo flas mwy cymhleth na’r Classic – ciwcymbr ffres ac adfywiol wedi’i gydbwyso gan fymryn o chwerwder. Roedd y Classic yn fwy blodeuog, ond at ei gilydd, i ni, roedd yn ddiod ddi-fflach.

O gymharu â Seedlip, mae blasau Ceder’s yn llai pwerus. Os ydych chi’n chwlio am ddiod esmwyth, rhowch gynnig ar Ceder’s; os blasau newydd a rhyfedd sy’n dod â dŵr i’ch dannedd, efallai mai Seedlip fydd y dewis gorau i chi.

Yn debyg iawn i Seedlip, er bod merywen yn y diodydd hyn, go brin eu bod nhw’n blasu fel jin traddodiadol. Dyma, wrth gwrs, un o’r cwestiynau tragwyddol ynglŷn â diodydd di-alcohol. A ddylen nhw fod yn debyg i’r diodydd alcoholaidd cyfatebol? Ynteu, ai helfa seithug yw honno, a dim ond bod yn ddiod dda (o ba fath bynnag) sy’n bwysig?

Daeth yn llawer haws yn ddiweddar cael gafael ar ddiodydd Ceder’s, diolch i gytundeb dosbarthu gyda Pernod Ricard. O ganlyniad, gallwch chi eu prynu nhw yn Sainsbury’s (a hefyd trwy’r Whisky Exchange ar- lein ac o’u siopau yn Llundain). Gyda Diageo yn buddsoddi yn drwm yn Seedlip, mae’n amlwg bod y cwmnïau mawrion yn gweld dyfodol mawr i wirodydd di-alcohol

Mae gan Seedlip a Ceder’s ill dau brisiau sy’n eu gosod yn rhan ddruta’r farchnad. Mae Seedlip yn costio £26 am 700ml yn Tesco, ac mae Ceder’s ar werth am £20 am 500ml yn Sainsbury’s. Gan nad yw cynhyrchwyr yr un o’r ddwy ddiod yn gorfod talu’r £7.52 o doll sydd ar wirodydd arferol, byddai’n ddiddorol gwybod a oes rhaid eu prisio mor ddrud oherwydd costau cynhyrchu, ynteu a benderfynwyd eu gwneud nhw ychydig yn gostus er mwyn apelio i gwsmeriaid sy’n fwy parod i wario.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​