Ceder’s Pink Rose

English | Cymraeg

Ein barn ar Ceder’s Pink Rose.

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0%

Calorïau ymhob 100ml: 24

Sgôr: 4 o 5

Mae Ceder’s Pink Rose yn un o bedwar “jin amgen”, wedi’u henwi ar ôl Mynyddoedd Cederberg yn Ne Affrica, lle mae llawer o’r perlysiau sy’n rhoi blas i’r diodydd hyn yn tyfu.

Mae’r wirod ddi-alcohol yma wedi’i gwneud â meryw, rhosod a hibisgws, wedi’u cyfuno â dŵr glân gloyw o Sweden. Ar ei phen ei hunan, mae hi fymryn yn rhy flodeuog. Ond wedi’i chymysgu gyda thonic, mae’n gwneud coctel jin pinc dymunol iawn, gydag awgrym o surni i gydbwyso’r melystra.

Cawson ni hi ar werth yn Sainsbury’s ynghyd â Ceder’s Classic.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​