Celtic Soul

English | Cymraeg

Ein barn ar Celtic Soul.

Sgôr:

3/5

ABV: 0%
Calorïau ymhob 100ml: 12
Sgôr: 3 o 5

Gan fod y rhan fwyaf o wirodydd di-alcohol yn weddol o debyg i jin, mae’n neis cael un sy’n fwy tebyg i wisgi. Yn ôl y rheolau, rhaid wrth gryfder o 40% neu fwy ar gyfer Wisgi’r Alban, felly allan nhw ddim galw “wisgi” ar hwn, ond dyna’r ddiod mae’n agosaf ati.

Mae iddo liw wisgi neis a gwynt myglyd dymunol. Yn ôl ei wneuthurwyr, mae wedi’i eni o “frawdoliaeth, dewder, ffyddlondeb, cerddoriaeth, niwl a thywydd garw”, ac mae’r wefan yn gyforiog o luniau o ddynion yn mwyhau’r mynyddoedd a’r môr. Mae gan y ddiod adflas cynhesol eithaf pleserus – er mwyn codi’r galon wedi diwrnod yn y gwynt a’r glaw, efallai.

Mae’r cynhyrchwyr yn awgrymu ei gymysgu gyda chola neu ddiod sinsir. Ond yn ein profiad ni, roedd ei flas yn mynd ar goll yn y rhieni. Bydd rhaid i chi gynnal eich arbrofion eich hunan i weld beth sy’n gweithio i chi. Gallwch brynu Celtic Soul yn Sainsbury’s.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​