Clean R gyda Chola

English | Cymraeg

Ein barn ar Clean R gyda Chola

Sgôr:

4/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob can: 62 (25 ymhob 100ml)
Sgôr: 4 o 5

Gwelsom ni’r ddiod yma, yn ei chan lliwgar trawiadol, yn hydref 2021. Yn ôl pob golwg mae wedi cymryd lle Clean Cuba Libre, diod rydym ni wedi’i hadolygu o’r blaen ar y wefan yma.

Pa enw bynnag rowch chi arni hi – Cuba Libre neu rym-a-chola – ar ei ffurf alcoholaidd mae’n un o goctels mwyaf poblogaidd y byd, yn rhannol am ei bod mor syml ei gwneud: cymysgu rym sbeisiog gyda chola. Felly, ydy hi’n gweithio heb yr alcohol?

Yn y bôn, ydy. Mae ganddi arogl sbeisiog cynhesol – tipyn bach yn Nadoligaidd – a blas dymunol a chynhesol hefyd. Fel pob tro, bydd rhaid i chi benderfynu drosoch chi’ch hun, ond i ni mae’n eithaf agos at rym-a-chola arferol.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​