Ginish

English | Cymraeg

Ein barn ar Ginish.

Sgôr:

3/5

Cryfder: 0.5%
Calorïau ymhob potelaid: wrthi’n aros gwybodaeth
Sgôr: 3 o 5

Yn union fel mae byd jin yn mynd yn fwyfwy amrywiol bob blwyddyn, felly mae jin di-alcohol datblygu’r un fath. Mae meryw mewn Ginish ond nid dyna’r blas amlycaf. Mae rhyw nodyn blodeuog, bron fel lafant, a chic fach sbeislyd o bupur yr adar.

Morten Sørensen sydd wedi dyfeisio’r ddiod, ac mae fideo bach neis yma, yn Ddaneg gydag esboniad Saesneg, ac yntau’n sôn am ei resymau dros fynd ati i greu Ginish a’i chymar Rumish. Cewch chi brynu’r ddwy ddiod yn Holland and Barrett.

Mae Drydrinker a Wise Bartender yn gwerthu diodydd di-alcohol a phrin-eu-halcohol ar-lein. Pan fyddwch chi’n prynu oddi wrthyn nhw trwy’r dolenni yma, bydd Alcohol Change UK yn derbyn cyfran o’r elw, gan helpu talu am ein gwaith i roi diwedd ar niwed alcohol.​